Reit, mae’r wifi yn terrible fan hyn, so mae rhaid i mi logio bant nawr. Diolch o galon i bawb sydd ‘di dilyn y blog yma ac y flog dywethaf. Os oedd rhywun ‘di deud wrtha i flwyddyn dwethaf fuasa i yn blogio Cymru v Portiwgal yn y Gymraeg ar gyfer y Guardian, fuasa i ddim ei gredu. Mae hyn wedi bod yn ardderchog. Diolch i bawb am popeth.
Ac i’r tîm? Bechgyn, chi ‘di neud ein gwlad yn falch falch iawn. Diolch am popeth. Dwi off ar fy ngwylie nawr.
Updated
Mae ‘na camera arall fan hyn o na. NID HWN YW’R AMSER DWI’N RHY DRIST.
2-0 Portiwgal yn ennill
Reit. So. Dwi’n drist, wrth gwrs. OND. Edrych ar beth mae Cymru ‘di neud! Dwi’n falch. Er fy mod i yn pub yn Portiwgal. AR FY NGWYLIE.
90 munud: Ok pobl, gad i ni fod yn positif fan hyn. Pwy fydd yn deud tro yma flwyddyn dywethaf fydde Cymru yn y rownd goderfynol yn yr Euros? Pwy fydde’n deud fydde’r holl blydi Deyrnas Unedig yn uno gyda ni? Yn troi popeth amdanynt yn Gymraeg am ddydd? Mae’r tîm ‘di neud ni yn prowd.
89 munud: Bale yn cael melyn. Dwi’n anhapus. Mae’r pub nawr yn uffernol.
85 munud: Dydyn ni ddim angen gôl arall Portiwgal.
Updated
84 munud: Dyma’r peth: does dim siom yng Nghymru yn cyrraedd y rownd goderfynol. OND. Paammmmmm ydw i yn Portiwgal am hyn, pammmmmmm.
82 munud: Dwi nôl dwi’n meddwl... dyw pethau ddim yn mynd yn rhy dda i Gymru erbyn hyn. Mae’n edrych fel hyn yw’r diwedd, yn anffodus. AC DWI YNG NGHANOL PUB YN LISBON AGHHH.
Mae’r wifi yn mynd mewn a mas fan hyn yn y pub! Diolch Portiwgal, am sgorio 2 ac hefyd messo lan fy mlog fyw olaf (probably).
71 munud: Aeth wifi fi mas am eiliad! Portiwgal bron yn sgorio eto ond da iawn Hennessey am safio.
65 munud: Bron iawn yn 3 - 0. Bois, dere mlaen! Dwi yn pub Portiwgalaidd, dwi angen e...
Neb deud unrhywbeth arall am y cwrw!
please stop using Google Translate I'm going to get in trouble ahem I mean it's wrong pic.twitter.com/kb8ko8qJT0
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
Updated
62 munud: Dwi’n ddiolchgar iawn aeth y gôl yna dros y rhwyd. Phew.
61 munud: Reit, mae dal amser. Dal ati! Chester newydd cael melyn.
Munud 57: Dyma Joe Ledley! C’mon Joe!
Munud 56: Pawb fan hyn yn canu heblaw y criw Cymraeg. MWY CWRW
UGHHHHHHHHH
How I feel about Ronaldo pic.twitter.com/YkWjMKo9tO
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
YCH A FI
UGHHHHHHH pic.twitter.com/TPA4onCPjR
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
Gôl arall i Bortiwgal fi isio crio 2 - 0
UGHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHH
Updated
GÔL I BORTIWGAL 1 - 0
UGH TWITTER CHI MOR ANGHYWIR
Updated
Dyma cwpwl o predictions oddi wrth Twitter:
@elenacresci @cridlyn less confident than an hour ago but will stick my neck out and say 1-0 Wales
— Esyllt Mair (@EsylltMair) July 6, 2016
@elenacresci @cridlyn dyma fydd hi/here's how it'll finish ⚽️😊👍🏻 pic.twitter.com/iOLSI7cHV3
— Bolycs Cymraeg (@BolycsCymraeg) July 6, 2016
Munud 45: Hwn, basically.
@elenacresci hanner amser pic.twitter.com/gKIgTRjyPl
— Rhys™ (@red365) July 6, 2016
Er so cofia’r camermen daeth mewn? Oedden nhw isio gwybod beth dwi’n neud, y twpsyn yn goch gyda’r laptop, a gofynnodd nhw am gyfweliad. So dyna fi yn meddwl dwi’n neud cyfweliad am y blog OND NA, O’DD E AM YR ACTUAL PEL DROED. Oh god.
"what did you think of the match" "portugal are too close to the goal for my liking"
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
I am the worst accidental sports reporter ever pic.twitter.com/unavcTSyqL
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
Hanner amser! 0-0
Dim caps lock heddiw ffrindiau. O beth welais i, lot o cicio, lot o safio. Ond dwi’n cael mwy o gwrw so dwi’n hapus.
Munud 43: Oes rhyw fath o pwynt clod neu rhywbeth ar gyfer goalies, achos mae’r ddau wedi bod yn ardderchog. Ronaldo newydd cicio’r bêl past y gôl eto, pawb fan hyn yn stressed.
Munud 42: Oh a dyna tipyn ormod o action o Bortiwgal - diolch i’r nefoedd am Hennessey.
Munud 41: Reit, neges i bois o Bortiwgal ac o Gymru. Pam ydych chi gyd yn cicio’r bel dros y gôl?! FI’N CAEL BLOG FYW I RHEDEG. FI ANGEN ACTION.
Munud 38: I gyd dwi medru clywed yw’r cefnogwyr Cymraeg yn canu. Cymru am byth.
Updated
uh oh pic.twitter.com/jIGw8P2H0c
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
Munud 33: Peth yw hefyd, fi’n cael fy nghefn at sgrîn massif, so dwi’n teimlo fel bod pawb yn syllu arna i, y twpsyn yn goch gyda’r laptop. Amlwg mae nhw ddim achos dydw i ddim yn Gareth Bale, yn anffodus.
Munud 32: Pub update: fi’n boeth, ni’n cael fatha beer dispenser o Superbock ac dwi yn stresso mas.
Munud 28: Portiwgal yn gormod rhy agos i’r gôl i fi. Streeeeeeeesssooooo maaaaasssss
Munud 25: Mae hwn yn stressful - Portiwgal yn ymosod eto at y gôl, ni’n stresso mas. Hennessey yn safio DIOLCH HENNESSEY. Yn y cyfamser mae pawb yn cymryd y mic mas o fy teipo. Wel.
Munud 24: Hal Robson-Kanu (doo doo doo doo doo doo doo doo doo) yn mynd am y gôl gyda peniad o King ond NA. UGHHHHHHH FI ANGEN MWY CWRW
Munud 22: Blydi hell, Bale ati ETO. Cic enfawr reit i ganol y gôl. Bron yn mynd mewn, ond na, Patricio yn safio eto.
Munud 21: Un agos iawn eto i Gymru, gyda Bale yn cicio’r bêl ar draws - goalie Portiwgal yn ardderchog.
Munud 18: Bale yn rhoi whac enfawr i’r bêl ond mae’n mynd dros y gôl. Bah. Top up o Superbock i fi.
Munud 15: Waarrghhhhh, odd hwnna’n agos! Portiwgal bron yn cael e mewn, ond mae’n rhy eang.
Munud 13: O beth dwi ‘di gweld, dwi’n meddwl bod Portiwgal wedi bod ychydig yn well yn y 13 munud cyntaf. Ond mae’r chants y ffans Cymraeg yn hollol heb ei ail.
Munud 12: Dwi methu deall y commentary OND dwi medru clywed y chants o “Don’t Take me Home” yn uchel ac yn glir.
Munud 9: Portiwgal yn ymosodi ar y gôl. Pawb fan hyn (heblaw am y criw Cymraeg wrth gwrs) yn bloeddi at y teledu.
Munud 6: Matt Dony yn gofyn os gallaf brynu Penderyn ym Mhortiwgal. Dim clem. Anfonwch Penderyn i’r George yn Lisbon os gwelwch yn dda.
Munud 5: Wrth gwrs, mae’r commentary fan hyn i gyd yn Portiwgaleg... Dim clem ‘da fi beth maent yn deud.
Munud 4: Fi angen deud rhywbeth am y pêl droed! Mae lot o cicio, lot o pobl yn cwmpo. Williams ‘di cymryd Ronaldo lawr, da iawn boi.
Munud 3: Mae TV crew newydd dod mewn. Grêt, fwy o proof o’r twpsyn gyda laptop a peint o Superbock.
Munud 2: Ni’n ceisio dechrau chant o Hal Robson-Kanu ond dyw e ddim yn gweithio. Falle rownd o Please Don’t Take me Home?
Munud 1: Ni off ac mae’r sgrin dwi’n gwylio yn rili fach. Uh oh.
Ni off! Mae band yn chwarae nesa i fi, very distracting.
Ni yn erbyn y pub LLAWN O BOBL PORTIWGALEG
we are so outnumbered #WALPOR pic.twitter.com/f3HagBqI6v
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
FFRINDIAU, MAE’N DIGWYDD, CYMRU YN Y ROWND GODERFYNOL YYYEESSSSS
GWWLLLLAAAAAAAAAAADDDDDD
GWWWLLLAAAAADDDDDDDDDDD
PLEIIIDDIOOOLLL WYYYYFF I’M GWWLAAADDDD
Scenes o fy twitter feed:
@elenacresci it's predictably mental in the London Welsh Centre pic.twitter.com/KHizN6Rrkt
— Jonathan Fisher (@fishplums) July 6, 2016
@elenacresci Mae na nawr! pic.twitter.com/dRxhs6FW4f
— Marc is the best (@DeadpanMarc) July 6, 2016
@elenacresci BBC Cymru Wales Pres gyda @S4C ar y teledu sbâr pic.twitter.com/ilgYiPuEdq
— Abby (@abbyosullivan) July 6, 2016
Bron amser i’r anthems - ddylsen ni ganu neu beidio? Fi ‘di cael tipyn o cwrw so yr ateb yw probably: ie.
Shout out i Anne Davies, sydd yn gyfieithu’r blog yma i fy ffrind Cat, sydd yn eistedd nesa imi. HAIA ANNE
Angen bod yn ddifirfol nawr - yr un person sydd ar goll heno yw Gary Speed.
Together stronger… #WAL football will never forget Gary Speed https://t.co/gMGy5LpOxp
— ITV Football (@itvfootball) July 6, 2016
Mae ei dad yn Lyon heddiw:
Gary Speed's father Roger has just arrived in our Lyon bar. Hugs, tears, chants, and so many well wishes. Beautiful 🏆
— George Riley (@georgeyboy) July 5, 2016
Update o Portiwgal: ni yw’r unig Cymraeg yn y pub. Pob tro ni’n floeddio am y tîm, mae pawb yn mynd yn dawel. Hefyd yn trafod six degrees o seperation o’r bois yn y tîm. Chi’n gwybod - ffrind fy ffrind fy ffrind ‘di cwrdd a Gareth Bale.
Nôl yng Nghymru, mae pawb yn gyffroes iawn. Yng Nghaerdydd, mae yna gigantic fanzone yng nghanol y stadiwm Milen… ahem, sori sori, y Principality yw e dyddie hyn. Roedd bron 27,000 o dicedi ar gael, a wnaeth ffwti ffans De Cymru torri’r site gyda’r awydd i weld y gêm yn stadiwm fwyaf Cymru.
Crowd of 27,000 building in Principality Stadium, Cardiff to support Wales @CovPsychFRC @Euro2016 #togetherstronger pic.twitter.com/OvtR04ywYg
— Dr. Gavin Sullivan (@GavinBSullivan) July 6, 2016
Am barti - dwi’n cofio pan wnaethant yr un peth ar gyfer y rygbi yn 2011 - dau wahaniaeth though. 1) achos oedd y world cup yn Seland Newydd, oedd y match am 8yb neu ryw amser ych a fi, a 2) actually na ddwi dal ddim medru siarad am beth ddigwyddod yn y gêm yna. Dwi’n gobeithio bydd gyda Bale a’r bois fwy o lwc tro yma!
Fy ffrindiau newydd ffindio mas bod nhw yn y blog, fi mewn trwbwl...
Ok ok actual gwaith nawr. Dyma darn o’r opinion desg am sut mae pawb yn Gymraeg heno:
Hefyd mae’n blydi boeth
Felly, rhannwch y blog yma pobman achos dwi ‘di rhoi lan rhan o fy ngwylie! Ac hefyd, dwi’n edrych fel total twpsyn gyda laptop yng nghanol y pub.
this is my desk pic.twitter.com/kRWyeKI7v2
— Elena Cresci (@elenacresci) July 6, 2016
Rhaid imi sôn tipyn am yr amgylchiadau’r flog byw yma. Gynharach flwyddyn yma, drefnais gyda grŵp o ffrindiau i ddod i Lisbon, Portiwgal er mwyn mynd i festival cerdd. Mae ‘di bod yn fis eithaf prysur am newyddion, so dyma yw much-needed break i fi. Ond yna, ddarganfyddai fydd Cymru yn wynebu Portiwgal yn y rownd gynderfynol. Wel, meddyliais fod y siawns i flogio’r gêm yn erbyn Portiwgal yn Bortiwgal yn rhy dda i roi’r gorau iddi.
Ond dyw’r stori ddim yn pennu manna, na na. E-bostiais The George yn Lisbon ar ddydd Llun i ofyn os oes modd imi gael access i’r wifi. Atebodd y manager Goncalo, gydag ie, wrth gwrs - oh a gyda llaw, mae ei wraig yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Ffrindiau, mae hwn yn fate.
Agorais y flog dywethaf gan ddeud bod y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn hanesyddol - ond dyw hynny ddim yn teimlo’n ddigon tro yma. Mae taith Cymru yn Euro 2016 wedi bod fel math o dylwyth teg pêl droed. Wnaethon ni bennu top y grŵp, cyrraedd yr wyth olaf ac wedyn sgorio 3 - 1 yn erbyn ffefrynnau’r twrnamaint. Oes modd i ni ychwanegu stori arall i’r Mabinogi falle?
Trwy’r wythnos, mae’r holl Deyrnas Unedig wedi uno tu nol i fois Chris Colman. Yn sydyn, mae pawb o Coca Cola i This Morning ‘di dysgu tipyn o Gymraeg. A pam lai? Hwn yw’r bencampwriaeth ein breuddwydion.
Helo bawb a chroeso i yr ail flog fyw Cymraeg ar y Guardian. I’r rhai nad oedd yn dilyn y blog tro dwethaf - Elena dwi, un o’r (few) siaradwyr Cymraeg fan hyn yn Kings Cross.
Dwi yma i flogio fyw’r y cyffro Cymru v Portiwgal achos does dal dim clem gan fy ngohebydd beth sgwennais yn y blog diwethaf. I chi wnaeth golli fe tro dwethaf, dyma’r highlights):
here's a round up of me live blogging the football in Welsh #WALBEL #CYMBEL https://t.co/CYKuteZKb1 pic.twitter.com/5Ii60pDr3M
— Elena Cresci (@elenacresci) July 1, 2016