Waw waw waw. Dyna fe o fi heddiw. Diolch YN FAWR i bawb wnaeth e-bostio ac anfon tweets. Dim clem gyda fi os dwi’n neud y match nesaf achos dwi yn ffliping Portugal! Am timing. Deud e eto. MAE. CYMRU. YN. Y. ROWND. GO. DERFYNOL. YN. EURO 2016.
Am gamp.
CYMRU AM BLYDI BYTH pic.twitter.com/Bh4eCZjAHg
— Elena Cresci (@elenacresci) July 1, 2016
They'll be dancing in the streets of Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch tonight. #WALBEL
— Dave Turner (@mrdaveturner) July 1, 2016
Beth dwi’n neud nawr, dwi yng nghanol Llundain a gyd dwi am neud yw fynd mas yng nghanol Caerdydd!
Updated
Mae Chris Coleman yn dweud pethau a fi jyst yn CRIO, dwi methu delio!
A dyma’r peth, rydyn ni yn Gymru yn gwybod sut mae’r press yn siarad am y tim yna. Maent yn cael fwy o amser i Lloegr - tim wnaeth mynd mas i Wlad yr Ia - nag am Cymru. A dyma ni, yn y rown go-derfynol. Ar-blydi-dderchog.
Cymru. Yn. Y. Rownd. Go-derfynol.
Dwedwch e allan yn uchel. Sgrechiwch e i’r nefoedd. Mae hwn ‘di bod yn daith hir iawn i Gymru. Maent yn haeddu hwn. Ac dwi mynd i crio eto. HANES
AMSER LLAWN 3-1 I GYMRU
Dduw yn y nefoedd.
Maent ‘di neud e.
HANESYDDOL.
Cymru am byth!
Updated
Rhaid i ni rhoi clod i Cridlyn am rhagfynegi sgôr heddiw
@elenacresci Cymru i ennill 3-1.
— Cridlyn (@cridlyn) July 1, 2016
90 munud: Mae’r stadiwm yn canu, mae popeth yn biwtifful.
88 munud: Panic nawr bod yr update dywethaf mynd i jinxio’r holl beth
Updated
87 munud: Dwi’n ysgyd, dwi mynd y crio. Mae hwn yn digwydd. Mae hanes yn digwydd fan hyn. O Cymru, fy nghalon!
GÔL I GYMRU 3-1 DWI MYND I CRIO
85 munud: DWI DAN Y DESG DWI ‘DI MARW RIP ELENA ODD HI’N BLOGIO’N FYW YN DDA DIOLCH SAM VOKES
Updated
80 munud: Neges o ffrind Saesneg:
Os bod Cymru yn ennill y gêm yma, fydd Cymru ‘di mynd yn bellach yn twrnaith mawr yn y 20 flunedd dwi wedi bod yn gwylio pêl droed nag Lloegr wedi mynd unrhyw amser yn y 20 flynedd dwi ‘di bod yn gwylio pêl droed
79 munud: Agos iawn i Ben Davies, jyst yn ddianc rhoi cic rhydd i Gwlad y Felg ar ôl dod Romelu Lukaku lawr.
78 munud: Tra i frenhin y ddawns Joe Ledley, helo i Andy King.
pob clod i @elenacresci heno. Poeni am ei phwysedd gwaed.
— Bertwyn (@bertwyn) July 1, 2016
Y ffordd mae Gwlad y Belg yn ymosodi ar y gôl reit nawr, fi hefyd!
74 munud: Aaron Ramsey yn cael cerdyn melyn, sydd yn meddwl dyw e ddim yn medru chwarae yn y gêm nesaf os yw Cymru yn ennill. Mae’n edrych fel ei bod yn gwybod yn iawn, trueni. Dries Mertens yn dod mlan am Jordan Lukaku.
Updated
73 munud: PENIAD ond nid o’r person gywir. Marouane Fellaini bron yn sgorio, ond y shot yn rhy eang.
If this continues a population roughly the size of Wales will be drunk tonight #WALBEL
— Richard Osman (@richardosman) July 1, 2016
71 munud: Oes yna unrhywbeth well na’r sain o Calon Lân trwy bron yr holl stadiwm? Na, sai’n credu.
70 munud: lle mae fy Mhenderyn
The guardian Welsh live match blog. Not sure if it's the language or if someone just nutted the keyboard #wal #bel https://t.co/6y0FacwlbS
— Johnathan Kelly (@_JohnnyKelly) July 1, 2016
65 munud: PENIAD ARALL O WILLIAMS, sut ydy o’n gwybod dyna yw fy gair y dydd? Cheeky fans yn ceisio cadw’r bel.
Updated
64 munud: Mae Ramsey pobman. Streak o felyn dros y pitch i gyd. Cic rhydd i Gwlad Belg. Arbed lyfli o Hennessey.
Bod yn professiynol eto.
@ianprior CACHU SANCTAIDD
— Elena Cresci (@elenacresci) July 1, 2016
60 munud: Ydw i’n ok? Sai’n siwr. Ond am gêm o bêl droed. Waw.
Newydd cael tecst o ffrind gyda’r whale emoji drosodd a drosodd.
Fi isio gwylio’r gôl yna am weddill yr wythnos.
Jyst i chi wybod, wnaeth fy nghydweithiwr rhoi sticer Panini o Hal Robson-Kanu i fi am lwc. AM LWC
GÔL! GÔL! GÔL! GÔL! GÔL! 2 - 1
54 munud: FI ‘DI COLLI FE YN HOLLOL DRYCHA AR HYNNY WAW WAW WAW WAWWWWWWWWWWWWWWW Hal Robson-Kanu, ti’n biwti!
Updated
53 munud: Aaron Ramsey yn cael cic rhydd.
51 munud: Gwlad y Belg yn cadw mlaen gyda’r ymosodiad. Williams yn stopio gyda... PENIAD. PEEENIAAAD.
Updated
50 munud: Eden Hazard bron yn sgorio, ond yn colli’r bêl tu fas cornel y gôl.
49 munud: Gwlad y Belg yn ddechre’n gryf ac yn cael cic rhydd oherwydd Joe Allen.
Updated
46 munud: Ail hanner a dwi newydd ddarganfod dwi wirioneddol isio bwyd. So dwi angen bucket hat, pint o Penderyn ac falle tipyn o rarebit neu cawl i cadw fi’n mynd.
Newydd gofyn i Twitter am ei rhagfynegiadau.
@elenacresci llawn amser 1-1, mynd i bwli cosbau , ni yn enill 100000000-0
— David Clubb (@davidoclubb) July 1, 2016
@elenacresci Cymru i ennill 3-1.
— Cridlyn (@cridlyn) July 1, 2016
@elenacresci 2-1, Bale i sgorio'r gôl derfynnol.
— Owen J Lloyd (@OJLloyd) July 1, 2016
Wedyn curo Portugal, rownd derfynol yn erbyn yr Almaen
Pam ydy’r pundits yn siarad am Lloegr? Ath nhw mas wythnos yma!
Dispatch o Babi Cresci (mae fe’n 24 mewn wythnos)
@elenacresci Beth am gem eh? Blydi ardderchog! #WALBEL
— Jack Cresci (@JackCresci) July 1, 2016
Pethau dwi ‘di dysgu yn ystod hanner gyntaf yma:
- mae treigladau yn mynd mas y ffenest gyda gêm fel hyn (dwi am ymddiheurio i fy athrawon Gymraeg yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg - mae rhai pethau byth yn newid!)
- tro nesaf, dwi’n dod a cwrw achos dwi angen e
- peniad yw header yn y Gymraeg
- mae pobl ar twitter yn neis iawn pan dwi’n sgwennu yn y Gymraeg, DIOLCH POBL
E-bost o Matt Dony, sydd ‘di bod yn neis iawn, diolch ffrind.
Mae hyn ofnadwy I wylio! Ble mae Penderyn fi?
Ble yn union Matt. Gall rhywun anfon peint o Benderyn i’r swyddfeydd Guardian gyda het bucket plîs.
Hanner amser: 1-1
Fi mor stressed. Mae’r pundits yn deud bod Cymru yn chwarae yn ofnadwy o dda. Fi bron methu gwylio, mae fy nghalon yn rasio. Aaaaaaaaaaa!
Dispatch newydd o barti Cymraeg Kath Viner - maent nawr yn cael yr eiriau ffonetig am Calon Lân, fy hoff gân Cymraeg. Fi ‘di bod yn brofessiynol iawn gan ebostio i nôl gan deud “OMG CALON LÂN IS MY FAVE” fel bod e’n pop song neu rhywbeth.
40 munud: Deud i chi beth, dydych chi byth yn gallu stopio Cymru yn canu. Mae’r stadiwm yn atseinio gyda swn yr anthem.
38 munud: Dwi’n cael temilad fydd y blog yma jyst yn newid i flog fyw am pa mor agos ydw i at gael trawiad ar y galon.
36 munud: Yn ôl y blog fyw Saesneg, mae Cymru yn edrych yn gyfforddus iawn. Gwd. Achos dwi ddim, dal yn stresso mas.
Dwi am ymddiherio i bawb yng Nghymru am pa mor wael mae fy nhreigladau ‘di mynd nawr. Sori. Mae’n rhy gyffroes am Cysill nawr.
34 munud: Ok ok dwi nôl. So wnaeth Mr Bale bron neud e yn 2-1, ond na! Scuppered can Courtois. Bah! Bah!
Header yw peniad pobl! Diolch Catrin!
@elenacresci Header = peniad
— CatrIN Newman (@catrinnewman) July 1, 2016
Munud 33: Fi dal heb adennill.
looking forward to @elenacresci becoming increasingly indecipherable as evening progresses
— Magnus (@Magnus_Jamieson) July 1, 2016
GÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔL I GYMRU 1-1
Munud 30: ANHYGOEL ANYGOEL. Ashley Williams yn cael e, beth yw header yn Gymraeg, dwi ddim yn gwybod. 1-1!
Updated
Munud 27: WWF odd Neil Taylor MOR agos, ond Thibaut Courtois yn safio.
Munud 23: Popeth yn cicio bant nawr. Cymru yn cael cic rhydd, Ramsey yn cymryd y bêl. Ond yna yn cael ei flocio. Yna, Chris Gunter yn cael cerdyn melyn. Tair cerdyn melyn erbyn hyn, o diar.
Updated
Munud 20: Gareth Bale yn chwarae i Neil Taylor, ond mae Joe Ledley yn gadael i’r fêl fynd. Trueni.
Hei gyda llaw ydw i wedi sôn dwi erioed ‘di neud hwn? Mae’n ANODD. Munud i funud ddim cweit yn gweithio i fi, ond dwi fan hyn yn ceisio yn union fel Bale yn ceisio mynd am y gôl. YN UNION.
Updated
Munud 17: Nawr mae’n tro James Chester i gael booking, am tripio lan Romelu Lukaku.
Updated
Munud 15: Bale yn ceisio, ond dim lwc.
Damn you, Cyberpunk Tintin. #WALBEL #Wal
— David Llewellyn (@TheDaiLlew) July 1, 2016
GÔL I GWLAD BELG A WNES I COLLI FE
Munud 12: Hey so, peth doniol, fi ‘di bod yn gwylio S4C so nes i ddim weld y gôl yna achos mae fe mor behind! 1-0 i Wlad y Belg. Argh! Radja Nainggolan sgoriodd fe. Damo.
Updated
Munud 8: Mae’r bois mewn glas yn ceisio cymryd y bêl nôl ond mae Bale yn off ar ddraws y pitch fel fflam. Blimey mae’n mynd yn gyflym.
Updated
Munud 7: Oh my god mae hwn yn stressful iawn.
Munud 6: Attack hiwj gan Wlad y Felg. Pawb o Gymru yn ceisio popeth i stopio’r bêl.
Updated
Munud 4: Oof, edrych fel garden felen yn erbyn Ben Davies. Newyddion drwg!
Munud 3: Shout-out i fardd Joe Ledley. Edrych yn dda boi!
Munud 2: Joe Allen yn cael y bêl, rhoi i Hal Robson-Kanu. Ond Gwlad y Belg yn cael e nôl. Meanwhile, dwi ‘di rhoi lan ar Cysill. SORI
Munud 1: Wrth gwrs, mae’r bois yn goch. Mae Wlad y Belg yn glas. Wlad y Belg yn dechrau gyda’r bêl.
I gyd dwi’n gallu clywed yw’r Cymraeg yn canu. Gwlad y gân!
AC DA ‘NI OFF.
Mae’n gohebydd Kath Viner yn parti Cymraeg heddiw - newydd anfon hwn draw, lyrics so bod pawb medru canu’r anthem.
GWLAD
GWLAAAAAAAAAD
PLEIDIOL WYYF I’M GWLAD
Mae’r stadiwm yn ORLAWN. Ac mae’r glaw yn ddisgyn. Dyma hyn o Dafydd Pritchard o’r BBC:
For the superstitious among you, a gentle reminder that it was also pouring with rain when Wales beat Belgium last year.
— Dafydd Pritchard (@DafPritchard) July 1, 2016
FI’N NERFUS, SUT BOD PAWB ARALL YN TEIMLO? OH GOOOODDDDD
@elenacresci cachu brics
— Abby (@abbyosullivan) July 1, 2016
Mae’r blog Camsefyllian yn cael hyn i ddeud am y gêm heno:
Noswyl cyn gêm bwysicaf Cymru ers 1958 (neu ers ddydd Sadwrn diwethaf?) daeth newydd fod Jan Vertonghen, amddiffynnwr Tottenham Hotspur a Gwlad Belg wedi rhwygo tenynnau yn ei bigwrn. Dyma ergyd drom i Tottenham – ni fydd ar gael am bedwar mis, ond mae’n ergyd farwol i Wlad Belg sydd eisoes heb Vincent Kompany, eu capten a’i amddiffynnwr drwy anaf a Thomas Vermaelen am iddo dderbyn dwy garden felen yn ystod y rowndiau blaenorol. Mae’n debygol y bydd rheolwr Gwlad Belg, Marc Wilmots yn rhoi cap cyntaf i Jason Denayer, amddiffynnwr 21 mlwydd oed Dinas Manceinion a bydd Jordan Lukaku, brawd Romelu, hefyd sy’n 21 mlwydd oed, yn chwarae. Mae gan Gwlad Belg unigolion dawnus ond os oes gwendid yn y tîm, yr amddifyn yw hwnnw, ac o golli Vertonghen heddiw mae’r gwendid wedi troi’n greisis.
Disptach o London Welsh yma yn Llundain.
Wee bit of French for you from the Welsh Centre in London @elenacresci pic.twitter.com/Q909i320l7
— Paul Campbell (@campbellwpaul) July 1, 2016
Gyda llaw, os dydych chi ddim yn dilyn Elis James erbyn hyn, PAM?!
Wales v Belgium. Quarter Finals of Euro 2016. A Belgian just tweaked my nipple and said 'this is your banter'
— Elis James (@elisjames) July 1, 2016
Mae’n neud series ffab ar gyfer BBC Cymru “Elis in Euroland” ac yn ddoniol iawn. Hefyd yn gyfrifol am un o fy hoff tweets am y pel droed Cymraeg erioed.
Doubt I'll ever see a better Twitter exchange about Wales winning the football than this https://t.co/jNQAJSzyNM pic.twitter.com/ho8tJmdMmO
— Elena Cresci (@elenacresci) September 4, 2015
Mae’r bois rygbi Cymraeg wedi ychwanegu eu cymorth i’r tîm heno - ond gallen ni siarad am George North yn troi ei gi sosej mewn i DDRAIG? George “Daenerys” North neu beth?
3 dragons excited for the game. Good luck to @GarethBale11 and the rest of @FAWales later! #nophotoshot 🐉👊🏼 pic.twitter.com/PQtNvSQu4n
— George North (@George_North) July 1, 2016
So. Nid ni yw’r cyntaf i neud flog fyw o Gymru yn Euro 2016 - mae’n ffrindiau yn By The Minute ‘di bod yn neud stellar job, probably gyda rhywun sydd yn gwybod bach fwy am y ffwtbol na fi. S’neb Cymraeg yna heno, so dyma neges o’r Alban.
@elenacresci @wellway27 @James_Dart @guardian @ByTheMinEuro16 it's a Scot here tonight so all I'll say is "GIE THEY WAFFLE MUNCHERS AW'HING!
— ByTheMinute (@ByTheMins) July 1, 2016
Mae rhai cefnogwyr wedi bod yn styc oherwydd o delays yn yr Eurotunnel. A pwy sydd ‘di bod gyda nhw? Neb llai na Cerys Matthews o Gatatonia. Mae twitter feed hi ‘di bod fel math o thriller wrth iddi geisio cyrraedd Lille heno. Dal ati Cerys!
Folkestone @EurostarUK @Eurostar is a sea o'red.a sea who wants 2bon t'other side of the channel to see @FAWales :( c'mon @ThomastankTrain !
— Cerys Matthews (@cerysmatthews) July 1, 2016
We're doomed *repeat. You'd think something wld go right this week. #Stuck on the wrong side of the channel @FAWales @EurostarUK @Eurostar
— Cerys Matthews (@cerysmatthews) July 1, 2016
Anyone have the postcode to the #walbel stadium? (I know, I know) ..
— Cerys Matthews (@cerysmatthews) July 1, 2016
Allons!!! pic.twitter.com/O8dMr00D8K
— Cerys Matthews (@cerysmatthews) July 1, 2016
Update. We can see France. 1hr 53 to get there. #walbel
— Cerys Matthews (@cerysmatthews) July 1, 2016
Newydd glywed rhywun fan hyn yn ymarfer Hen Wlad fy Nhadau. MAE PAWB YN GYMRAEG HENO. (Heblaw am bawb nath tweeto fi i ddeud “no we’re not”)
Beth yw bucket hat yn y Gymraeg? Het bwced? (fi heb treiglo achos mae’n edrych yn rude) Ddim clem gyda fi, ond dwi isio un. Anfonwch un i Llundain os gwelwch yn dda.
Cardiff - get your hats for the big game. pic.twitter.com/UN8lweATDw
— steven morris (@stevenmorris20) July 1, 2016
Newydd clywed beth yw’r line-up am y ddwy ochr.
Cymru: Hennessey, Chester, Ashley Williams, Davies, Taylor, Allen, Ledley, Ramsey, Gunter, Robson-Kanu, Bale.
Eilydd: Fon Williams, King, George Williams, Edwards, Richards, Cotterill, Vokes, Collins, Jonathan Williams, Vaughan, Church, Ward.
Gwlad Belg: Courtois, Meunier, Alderweireld, Denayer, Jordan Lukaku, Nainggolan, Witsel, Carrasco, De Bruyne, Hazard, Romelu Lukaku.
Eilydd: Mignolet, Fellaini, Mertens, Origi, Kabasele, Dembele, Benteke, Batshuayi, Ciman, Gillet.
Canolwr: Damir Skomina (Slovenia)
Mae’r antics ffans Cymraeg mas yn Ffrainc ‘di bod yn hynod o entertaining i weld trwy’r twrnamaint.
I fod yn onest, fi ‘di bod yn dipyn yn concerned.
PWY sydd yn edrych ar ôl Gymru tra bod pawb yn Ffrainc? Mae PAWB mas ‘na. Mae Taulupe Faletau mas yna heddi!
Nôl yng Nghaerdydd, mae pawb sydd ddim mas yn Ffrainc yn barod am heno.
Updated
Gan fod dyma yw fy go gyntaf yn blogio’r ffwti yn fyw, fi ‘di cael tipyn o gyngor ar twitter.
@elenacresci @ianprior cofio i cyfieithu gareth Bale i Cymraeg, sef Gareth Bêl.
— Brenig Phillips (@BrenigPhillips) July 1, 2016
@elenacresci @JackCresci fyddwch yn iawn. Mewn amserau anodd, dwi'n cofio un peth - mae Mistar Urdd yn edrych droson ni gyd. Probably.
— Marc is the best (@DeadpanMarc) July 1, 2016
Cysill ar agor, barod i fynd. Amdani!
BREAKING NEWS
Am heno, mae Lorraine Kelly yn Gymraes.
Ditto https://t.co/sKuBDBfsjo
— Lorraine (@reallorraine) July 1, 2016
Bet your ass Elena !! https://t.co/fjWaar52lP
— Lorraine (@reallorraine) July 1, 2016
Pa fath o siawns sydd gennyn ni yn erbyn Gwlad y Belg ‘te? (sai’n siŵr os dwi fod i fod yn niwtral, ond beth bynnag, cyfrinach ni yw e)
Ar ôl iddyn nhw ennill yn erbyn Hwngari, maent ‘di cael ei weld fel ffefrynnau. Ond mae ganddyn nhw broblemau amddiffynnol - mae Thomas Vermaelen mas a hefyd Jan Vertonghen. Mae’r bois Cymraeg yn cael record dda yn erbyn nhw. Yn y tair match rhwng y ddau, mae Cymru ‘di ennill unwaith a thynnu dwywaith. A hefyd, mae Ashley Williams yn fit i chwarae.
Mae ‘na loads o pundits yn y blog Saesneg so wnes i ofyn fy mrawd Jack - wnaeth o snecian i Ffrainc wythnos dywethaf so fi’n jealous ac isio embaras fo.
“Gôl! Gareth Bale!”
Dyna ni ‘te.
OK DIGON AMDANA I.
Beth am y bois yn goch? Dyma ni heno yn weld nhw yn y rownd go-derfynol o’r Euros 2016. Mae’n anhygoel i feddwl pa mor bell maent ‘di dod. Nhw yw obaith olaf y Deyrnas Unedig (not so Unedig ers wythnos dwetha, ond nid amser i Frexit yw hwn…) ar ôl i’r Sais golli i Wlad yr Ia a nawr bod yr Iwerddon a Gogledd Iwerddon mas hefyd.
Ond mwy ‘na hynny, hwn yw’r gêm fwyaf i Gymru ers 1958, pan cyrraeddod y tîm yr wyth olaf yn yr World Cup. Mae hwn yn massif.
The dragon on my shirt, that's all I need 🐲 pic.twitter.com/V07jxdTryF
— Gareth Bale (@GarethBale11) July 1, 2016
Noswaith dda pawb a chroeso i foment hanesyddol iawn. Na na, nid y bêl troed, fydd digon o hynny heno…
Ond drycha! Blog fyw ar y Guardian yn y Gymraeg! Nad yw hynny’n neis? Dwi’n braidd yn ddiethrin i’r ddesg add gorff ond, helo! Fy enw i yw Elena, dwi’n dod o Ddinas Powys ac fel arfer dwi’n egluro memes i weddill y Guardian ac yn trydar yn caps loc.
Ond heddi, pob tebyg am un nos yn unig, fi yw’r correspondent ffwtbol Cymraeg ar gyfer y Guardian. Does dim clem gan fy ngolygydd beth ddwi’n actually deud. Ffrindiau, mae hwn mynd i fod yn hwyl go iawn.
fi rn #WALBEL #CYMBEL pic.twitter.com/CmsKN5Urq5
— Elena Cresci (@elenacresci) July 1, 2016
Updated